Cymuned greadigol sy’n cysylltu, yn meithrin ac yn dathlu’r cyfoeth o dalent sydd yn y rhanbarth.

Uchelgeisiol. Cydweithredol. Galluogol

Beth rydym yn ei wneud

Creadigol

Gan ganolbwyntio’n bennaf ar y sectorau cerddoriaeth, sgrin, cyhoeddi, animeiddio, chwarae gemau a VR, mae Gorllewin Cymru Creadigol yma i dynnu sylw at waith anhygoel y busnesau creadigol, y cyfleoedd gwaith a’r llwybrau gyrfa sydd yn y rhanbarth.

Cyfathrebu

Mae’r rhwydwaith yn rhoi cyfle i gydweithio a chyfnewid gwybodaeth trwy ddod â phobl at ei gilydd i rannu a hysbysu, gan ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r ecosystem greadigol yn yr ardal a chefnogi creadigrwydd ar draws Gorllewin Cymru, o Gastell-nedd Port Talbot i Geredigion.

Cysylltu

Cyfleoedd pwrpasol i gyfnewid gwybodaeth a rhwydweithio o Gastell Nedd i Arberth gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau o drafodaethau panel i arddangosiadau gan gwmnïau.

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus