Gweledigaeth
“Gydag uchelgais yn greiddiol i ni, mae Gorllewin Cymru Greadigol yn eiriol dros y sector creadigol ac yn ei alluogi i ffynnu. Trwy gydweithio a hyrwyddo, rydym yn cynnal ac yn dathlu ein hunaniaethau creadigol. Rydym yn meithrin dysgu, gwerthoedd, a thyfu a chynnal bywoliaethau creadigol ffyniannus.”
Nod Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol yw…
Hyrwyddo cyfoeth talent yr ardal
Annog sgyrsiau a chydweithio
Cynrychioli’r diwydiant yn y rhanbarth a darparu llais cryf i ddylanwadu a newid
Ysgogi twf ar draws y diwydiannau creadigol
Datblygu talent a sgiliau newydd gyda llwybrau clir i'r diwydiant
Mae nifer fawr o bobl dalentog yn ein rhanbarth, sy’n cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Mae'r ardaloedd unigryw hyn yn gyfoethog o ran creadigrwydd, diwylliant a thirwedd ac yn gartref i bobl fedrus sy'n gweithio yn y sectorau creadigol.
Mae'r rhwydwaith yn bwriadu adnabod a mynd i'r afael â heriau a materion o fewn y meysydd hyn a helpu ein pobl greadigol bendigedig i ffynnu o fewn diwydiant cynaliadwy yn eu sir.
Our Objectives
Creu
Gweithredu rhaglen o weithgareddau er mwyn galluogi a meithrin capasiti ar draws y sector tra’n tynnu sylw at gyfleoeddcreadigol ar draws y rhanbarth.
Cysylltu
Hwyluso cymunedau cryf a fydd yn plethu i gyflawni gweledigaeth ein Rhwydwaith a chysylltu addysg, sgiliau a diwydiant.
Cyfathrebu
Cyfleu cryfderau a heriau’r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth er mwyn dylanwadu ar newid a chefnogi lleseconomaidd a diwylliannol.
Creu cyfalaf
Sicrhau twf a gwerth am arian wrth i ni gadw, buddsoddi a meithrin capasiti, adnoddau ac arbenigedd busnes.
Datgloi mwy o bosibiliadau gyda
chyfrif AM DDIM!
Arddangos talent
Postiwch arbenigeddau a lleoliadau creadigol yn eich ardal ar fap rhyngweithiol y rhwydwaith
Swyddi
Postiwch swyddi a chyfleoedd
Newyddion a digwyddiadau
Postiwch y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf yn eich ardal
Ymaelodwch
Galw pobl greadigol o'r sectorau cerddoriaeth, cyhoeddi, gemau, animeiddio a sgrin!






