Yn ôl i'r Diweddaraf
Cwrdd Haf
Tuesday, 1 July, 2025
Yr Egin Carmarthen
Yr Egin Carmarthen

Ymunwch â Gorllewin Cymru Greadigol, comisiynwyr ac arweinwyr diwydiant ar gyfer trafodaethau panel, cyflwyniadau a rhwydweithio.
Am Ddim: Cwrdd Haf | Summer Meet Up Tickets, Tue 1 Jul 2025 at 10:00 | Eventbrite
Amserlen Llawn
10yb Cyrraedd a paned
10:30yb: Menywod ym Maes Darlledu Chwaraeon – Wyneb Newydd y Bêl Gymraeg Wrth i dîm merched Cymru baratoi ar gyfer eu perfformiad hanesyddol cyntaf yn Ewros, dyma sgwrs ar foment arwyddocaol i chwaraeon a darlledu Cymreig. Byddwn yn trafod sut mae menywod yn siapio'r naratif yn y cyfryngau chwaraeon, nid yn unig o flaen y camera ond hefyd y tu ôl i’r llenni – fel darlledwyr, cynhyrchwyr ac arweinwyr busnes.
Yn ymuno â’r panel bydd Carolyn Hitt (BBC Cymru Wales) , Carys Owens (Whisper Cymru) a Geraint Evans (S4C), gyda’r darlledwraig brofiadol Angharad Mair yn cadeirio. Bydd y drafodaeth yn mynd i’r afael â chynrychiolaeth, y newid diwylliannol yn y diwydiant, ac yn archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael i fenywod i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus, sicrhau cytundebau, ac arwain yn y maes cystadleuol hwn.
Dewch i ymuno am sgwrs onest, ysbrydoledig ac amserol yn trafod chwaraeon a darlledu yng Nghymru.
11:30yb Cyfle i gael sgwrs a rhwydweithio
12yp AI a Chreadigrwydd: Er gwell neu er gwaeth
Beth all AI ei wneud a methu gwneud ar hyn o bryd? Dysgwch am yr offer deallusrwydd artiffisial diweddaraf, gan gynnwys demos byw. Byddwn yn gweld rhai ffyrdd anhygoel a brawychus y gall AI ehangu gorwelion creadigol, democrateiddio cynhyrchu a tharfu ar y cyfryngau. Byddwn yn cael profiad ymarferol fel y gallwch weld y cyfle tra byddwn hefyd yn trafod rhai o'r heriau moesegol a hawliau.
1yp: Cinio
2yp: Cysylltu Talent â Chyfle: Rôl yr Asiant Creadigol
Beth yw rôl asiant yn y diwydiannau creadigol – ac yn fwy na hynny, sut gall partneriaeth gyda’r asiant cywir agor drysau, datblygu gyrfa, a sicrhau cytundebau allweddol?
Yn y sgwrs banel hon, byddwn yn archwilio sut mae asiantiaid yn cysylltu talent â chyfle mewn meysydd fel actio, cyflwyno, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Yn ymuno â ni fydd Geraint Hardy o Regan Talent Management (asiant actorion a chyflwynwyr), Sioned Jones (asiant cerddorion a pherfformwyr), a’r awdures a sgriptiwr Fflur Dafydd sydd â dau asiant. Carys Ifan fydd yn cadeirio’r drafodaeth.
Bydd y sesiwn yn cynnig cipolwg gonest ar sut i feithrin perthynas broffesiynol ag asiant, beth i’w ddisgwyl o’r cydweithio, a sut i lywio’r ochr fusnes o fewn diwydiant creadigol sydd mewn datblygiad parhaus.
3pm Cyfle i gael sgwrs a rhwydweithio
3:30yp – 4yp Cwrdd a'r Tim - Cymru GreadigolDal lan gyda aelodau tîm Cymru Greadigol a fydd yn rhoi trosolwg o Gymru Greadigol a sut maen't yn medru cefnogi ffilm, teledu, digidol, gemau a cherddoriaeth yng Nghymru. Yr aelodau a fydd yn bresennol fydd Dai Baker – Rheolwr Datblygu Sector, Ffilm
Rachel Whitfield-Pierce – Rheolwr Datblygu Sector, Teledu
Kath Wolfe-Adams – Rheolwr Datblygu Sector, Digidol
Peter Francombe – Arweinydd Datblygu Sector, Cerddoriaeth