Yn ôl i'r Diweddaraf
SgwrSioe

Mae Yr Egin wedi lansio ‘SgwrSioe’ cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol trwy weithdai ymarferol a phroffesiynol i bobl ifanc yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos.
Bydd pobl ifanc o 16 – 25 oed yn cael cyfle unigryw i ddysgu dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant sut i ymchwilio, cyfweld, recordio a chynhyrchu eu podlediadau a’u rhaglenni radio eu hunain, gan ddefnyddio offer proffesiynol. mwy yma