Yn ôl i'r Diweddaraf

Hwb Aberteifi

Codwyd swm anhygoel o £88,700 mewn wythnos yn unig o'r cyfarfod cyhoeddus cyntaf i brynu hen Gapel y Tabernacl, Aberteifi.  Y gobaith yw y gellir cyrraedd y nod o £150,000 tuag at greu canolfan amlbwrpas o'r enw Hwb Aberteifi erbyn 31 Mawrth. Bydd y prosiect yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Aberteifi tra'n darparu canolfan addysg, cerddoriaeth, barddoniaeth a gweithgareddau cymunedol. Bydd hefyd yn arddangos gwaith y bardd a'r Archdderwydd lleol, Dic Jones; ac yn cynnwys stiwdio ar gyfer label cerddoriaeth gymunedol, Fflach.

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus