Yn ôl i'r Diweddaraf
Hwb Aberteifi

Codwyd swm anhygoel o £88,700 mewn wythnos yn unig o'r cyfarfod cyhoeddus cyntaf i brynu hen Gapel y Tabernacl, Aberteifi. Y gobaith yw y gellir cyrraedd y nod o £150,000 tuag at greu canolfan amlbwrpas o'r enw Hwb Aberteifi erbyn 31 Mawrth.
Bydd y prosiect yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Aberteifi tra'n darparu canolfan addysg, cerddoriaeth, barddoniaeth a gweithgareddau cymunedol. Bydd hefyd yn arddangos gwaith y bardd a'r Archdderwydd lleol, Dic Jones; ac yn cynnwys stiwdio ar gyfer label cerddoriaeth gymunedol, Fflach.