Yn ôl i'r Diweddaraf
Sesiwn Galw i Mewn
Friday, 28 March, 2025
Pembroke Dock
Pembroke Dock

Bydd Gorllewin Cymru Greadigol a thîm busnes Sir Benfro yn ymuno mewn sesiwn galw i mewn y mis hwn i ddathlu a chefnogi diwydiannau creadigol anhygoel y rhanbarth.
Gwahoddir cwmnïau sefydledig, gweithwyr llawrydd neu’r rhai sy’n ystyried sefydlu busnes newydd, i ymweld â Chanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro ddydd Gwener, 28 Mawrth rhwng 9am a 12pm i ddarganfod pa gymorth busnes sydd ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau.
Bydd sesiwn rwydweithio yn rhoi cyfle i gwrdd â phobl greadigol eraill, archwilio cyfleoedd posibl i gydweithio, a chyfarfod â chynrychiolwyr o’r Egin, Cymru Greadigol a Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol i gael rhagor o fanylion am y cymorth sydd ar gael i bobl dalentog yn y Gorllewin.
Digwyddiad Galw Heibio i Fusnesau / Drop In Business Support & Networking Tickets, Multiple Dates | Eventbrite