Datganiad hygyrchedd


Datganiad hygyrchedd ar gyfer Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol

 Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol.

 Atebol Cyfyngedig sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio’r porwr neu osodiadau eich dyfais
  • nesáu hyd at 400% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: shwmae@gorllewincreadigol.cymru.

Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: shwmae@gorllewincreadigol.cymru

Ffôn: 01267 611 600

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 2 ddiwrnod.

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘Map’, codwch y ffôn neu anfonwch neges atom ar gorllewincreadigol.cymru/contact i gael cyfarwyddiadau.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â [safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 neu safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2].

Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Medi 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 4 Medi 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Atebol Cyfyngedig.

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus