Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych! Cysylltwch gydag unrhyw gwestiwn ac mi fydd ein tîm ymroddedig yn hapus i'ch cynorthwyo.

Sut i gysylltu â ni…

Canolfan Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ

Cwestiynau cyffredin

Sut mae gosod cofnod ar y map?

Hawdd! Yn syml, ewch draw i'r dudalen Map, de-cliciwch ar unrhyw le yng Ngorllewin Cymru i ollwng eich pin, yna bydd ffurflen yn ymddangos i chi nodi'r manylion yr hoffech chi gael eu cynnwys ar y map.

Cofiwch! Bydd angen cyfrif (neu fod wedi mewngofnodi) er mwyn rhoi pin ar y map neu bostio swyddi/cyfleoedd. Gallwch greu neu fewngofnodi i'ch cyfrif yma.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i fy nghofnod map neu swydd gael eu cymeradwyo?

Gall gymryd 24-48 awr i dîm y rhwydwaith adolygu cofnodion y map a swyddi. 

Sut ydw i'n postio swydd ar y wefan?

Hawdd! I bostio swydd, ewch draw i Swyddi a Chyfleoedd a chliciwch ar y botwm, ‘Postio Swydd’.

Cofiwch! Bydd angen cyfrif (neu fod wedi mewngofnodi) er mwyn postio swyddi/cyfleoedd. Gallwch greu neu fewngofnodi i'ch cyfrif yma.

Pa ardaloedd mae Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol yn eu cynnwys?

Mae'r rhwydwaith yn cwmpasu'r rhanbarthau canlynol: Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Galla i roi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau neu newyddion?

Wrth gwrs! Mae'r rhwydwaith bob amser yn barod i gynnwys digwyddiadau neu newyddion yng Ngorllewin Cymru ar y safle! Anfonwch y manylion atom drwy'r ffurflen gyswllt, yma.

Sut ydw i'n cofrestru i dderbyn eich cylchlythyr?

Os sgroliwch i lawr i waelod y dudalen, fe welwch ffurflen i gofrestru ar gyfer cylchlythyrau’r rhwydwaith – dim ond eich e-bost sydd ei angen!

Cael trafferth mewngofnodi?

Os ydych yn cael problemau gyda'ch cyfrif neu'n cael trafferth mewngofnodi, cysylltwch â thîm cyfeillgar y rhwydwaith yma a byddan nhw'n gallu eich helpu!

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus