Yn ôl i'r Diweddaraf

Witsh: Yng nghwmni Mari Ellis Dunning

Friday, 31 October, 2025
The National Library of Wales, Aberystwyth
Dewch i glywed y stori tu ôl Witsh (Honno, 2025) yng nghwmni’r awdur Mari Ellis Dunning a fydd yn sgwrsio gyda Dr Emma Butler-Way yn y digwyddiad amserol yma. Yn y nofel, mae Dunning yn gweu stori dywyll o amheuaeth ac arswyd, lle caiff y fydwraig Sara Gwen ei chyhuddo o wrachyddiaeth yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg. Wedi’i hysbrydoli gan hanes gwrachyddiaeth Cymru, sydd i raddau helaeth yn anhysbys, mae’r nofel wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn traddodiad a realaeth, ac mae’n llawn themâu ffeministaidd cryf. Mae Mari Ellis Dunning yn fardd, yn nofelydd ac yn ddarlithydd. Witsh yw ei nofel gyntaf. Cafodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Salacia, ei henwebu ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2019. Mae hi’n dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n cyflwyno cyrsiau ar ysgrifennu ffeministaidd. Mae Dr Emma Butler-Way yn Ddarlithydd ar Flwyddyn Sylfaen Integredig Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg, a’i maes ymchwil oedd llenyddiaeth synwyryddol Prydeinig yr 1860au. Tocynnau

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus