Yn ôl i'r Diweddaraf
Busnesa yn Technegol

Rydym yn busnesa tu ôl i lenni Technegol, sy'n gwmni rheoli digwyddiadau o Geredigion sy'n gweithio ledled Cymru a thros y DU.
Gobeithio y byddwch i gyd yn mwynhau cipolwg ar y cwmni prysur hwn.
Mwynhewch busnesa!
Rydym yn gwmni rheoli digwyddiadau wedi ein lleoli yng Ngheredigion, yn gwasanaethu Cymru gyfan a rhannau helaeth o’r DU ers 2016. Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau sy’n cynnwys rheoli a threfnu digwyddiadau, darparu offer technegol sain, goleuo, AV, adeiladu setiau a stondinau arddangos – medrwn drefnu neu ddarparu popeth sydd angen ar gyfer digwyddiad o bob math. Rydym yn gweithio ar brif ddigwyddiadau Cymru yn flynyddol ac yn sicrhau bod prif ffocws ein gwaith ar ddigwyddiadau Cymreig. Rydym yn cyflogi 5 aelod o staff llawn amser ac yn cyflogi nifer o weithwyr a thechnegwyr llawrydd yn ystod adegau prysur. Mae pob aelod o staff y cwmni, boed yn llawn amser neu’n llawrydd yn rhugl yn y Gymraeg, ac rydym yn falch iawn i fod yr unig gwmni o'n math i fod yn ran o'r Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Sut mae'r busnes wedi datblygu?
Fe wnaeth Llŷr, un o’n Cyfarwyddwyr, sefydlu’r cwmni yn 2016 ar ôl gweithio i gwmnïau tebyg am ugain mlynedd yn flaenorol. Fe wnaeth adeiladu’r busnes yn raddol drwy fuddsoddi mewn offer a chyd-weithio gyda sefydliadau a chwmnïau eraill cyn ehangu ymhellach a chyflogi staff pellach i alluogi’r cwmni i ymestyn a datblygu. Fe ymunodd Huw fel Rheolwr ac fe wnaeth Cerys ymuno fel Cyfarwyddwr Prosiect i ehangu ar y gwaith rheoli digwyddiad. Buom yn ffodus i gael cefnogaeth grant Cynnal y Cardi a thrwy hynny fe wnaeth Harry ymuno fel technegydd dan hyfforddiant. Rydym bellach yn cyflogi Angharad fel Swyddog Prosiect i gadw trefn ar bethau yn y swyddfa o ddydd i ddydd hefyd.
Prosiectau cyfredol ac yn y dyfodol.
Rydym yn gweithio ar brosiectau a digwyddiadau amrywiol o flwyddyn y flwyddyn. Mae rhai yn gyson ac rydym yn gweithio arnynt ers blynyddoedd, ond mae yna ddigwyddiadau a phrosiectau newydd ar y gweill drwy’r amser. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau fel S4C, Comisiynydd y Gymraeg, Asiantaeth Safonau Bwyd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a’r Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer prif ddigwyddiadau’r flwyddyn. Rydym hefyd yn gweithio gyda Crystalyx, Mentera, Cyswllt Ffermio, Sioe Frenhinol mewn digwyddiadau amaethyddol yn darparu gwasanaethau technegol ar eu cyfer. Rydym yn darparu nifer o wahanol wasanaethau ar gyfer gwyliau fel Ffiliffest, Gŵyl Canol Dre, Tafwyl a Big Tribute yn flynyddol hefyd. Rydym yn mynd ac offer a thechnegwr ar daith dros y misoedd nesaf gyda Sioe Nadolig Cyw a Phantomeim Cwmni Mega, yn ogystal â gweithio yn y Royal Highland Show a threfnu gwobrau Caru Ceredigion gyda Chyngor Sir Ceredigion, felly digon o amrywiaeth!
Beth sy'n rhoi y wefr fwya' i chi yn eich gwaith?
Mae’r amrywiaeth yn werthfawr iawn i ni ac mae’n golygu ein bod ni fel staff yn addasu, dysgu a datblygu ein sgiliau a’n profiad drwy’r amser. Gan nad oes un mis yr un fath o ran cynnwys a natur y gwaith. Rydyn ni hefyd yn ymwneud gyda phob elfen o’r byd celfyddydol, adloniant a diwylliant. Rydym yn mynd i mewn i ysgolion lleol, sioeau amaethyddol, gwyliau mawr, theatrau a phrifysgolion, eisteddfodau, cynadleddau, llwyfannau a stondinau ac yn cwrdd â phobl o bob man. Rydym hefyd yn ddigon ffodus i gael teithio o gwmpas a gweld y wlad drwy’n gwaith, sy’n fuddiol iawn hefyd.
Beth yw'r peth gorau am sefydlu busnes yng Ngorllewin Cymru?
Mae lleoliad ein busnes yn bwysig iawn i ni, gan fod y mwyafrif o gwmnïau tebyg i ni wedi eu lleoli mewn dinasoedd yn y De. Rydym yn gwneud ymdrech i gefnogi digwyddiadau a sefydliadau lleol ac yn meithrin perthynas broffesiynol gryf gyda chwmniau eriall yng Ngorllewin Cymru ac yn cyd-weithio a rhannu adnoddau a staff mor aml â phosib. Mae’n bwysig i ni ein bod yn medru siarad Cymraeg yn ein gwaith a bod modd dangos o fewn y maes nad oes yn rhaid byw yng Nghaerdydd neu ddinas yn Lloger i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf. Mae rhai heriau wrth gwrs i fod yn gwmni gwledig, ond mae’r manteision yn fwy i ni ac mae’r olygfa o’r swyddfa yn werth ei weld bob dydd!
Beth yw'r manteision o fod yn rhan o rwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol?
Drwy fod yn rhan o’r rhwydwaith, mae cyfle i gwrdd ag unigolion eraill sydd yn gweithio o fewn y diwydiant a chlywed am yr hyn sy’n digwydd yn lleol. Mae’n gyfle gwych i glywed am yr holl waith anhygoel sy’n digwydd yn y Gorllewin ac yn ffordd dda o atgyfnerthu’r meddylfryd positif am weithio yn eich cynefin drwy weld llwyddiannau eraill.
Unrhyw gyngor i rywun sy'n dechrau gyrfa yn y diwydiant?
Y cyngor gorau i unrhyw un sy’n dechrau yn y diwydiant yw dyfalbarhau a cheisio cymryd pob cyfle posib. Rydym ni fel cwmni yn aml yn cynnig cyfleoedd am waith fyddai’n addas i bobl ifanc, ac rydym wedi cael nifer o unigolion talentog a gweithgar yn dod atom sydd wedi arwain at fwy o gyfleodd iddynt yn y dyfodol ac sydd yn golygu bod cyfle iddynt aros yn yr ardal yn hytrach na mynd ymhellach i gael y profiad. Mae’r diwydiant yn gyffrous ac yn fywiog iawn yn y Gorllewin ac mae angen mwy o gwmnïau ac unigolion i fod yn ddigon hyderus i aros yn yr ardal i gyfrannu tuag at y twf yma er mwyn inni fedru cadw’r gwaith a’r creadigrwydd yn y Gorllewin yn y dyfodol.