Yn ôl i'r Diweddaraf
MovieMaker yn Deaf Gathering Cymru

MovieMaker yw arddangosiad misol Chapter o ffilmiau byrion a sgyrsiau gyda’r bobl greadigol y tu ôl iddynt. Ar gyfer Deaf Gathering Cymru rhwng 21 a 23 Tachwedd, rydyn ni’n chwilio am wneuthurwyr ffilm byddar i rannu eu gwaith gyda’n cynulleidfa mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Anfonwch eich ffilmiau ac unrhyw gwestiynau i moviemaker@chapter.org. Rhaid i ni dderbyn y cyflwyniadau erbyn 19 Medi.
Mae croeso i bob genre a lefel profiad, ac yn ddelfrydol dylai’r ffilm fod yn llai na 15 munud o hyd. Gallwch gyflwyno ffilm am ddim.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gyda dehonglwyr a chapsiynwyr ar gael. MovieMaker