Yn ôl i'r Diweddaraf
Cronfa Lansio

Mae prosiect cerddoriaeth gan BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer y gronfa Lansio
Gall artistiaid cymwys, bandiau a labeli recordio o gymru wneud cais am hyd at £2000 tuag at eu prosiectau cerddoriaeth.
Cyhoeddodd Gorwelion, y brif raglen gerddoriaeth ar gyfer arddangos cerddoriaeth newydd o Gymru, rownd newydd o Gyllid Lansio. Bydd cronfa ar y cyd gwerth £60,000 ar gael i artistiaid a labeli recordio annibynnol o Gymru.
Mae dros 331 o artistiaid wedi cael bron i £500,000 yn uniongyrchol o'r grantiau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, ers ei sefydlu yn 2014.
Mae'r Gronfa Lansio yn adnodd sy'n helpu artistiaid neu fandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfa ym myd cerddoriaeth drwy roi mynediad hanfodol iddynt at gyllid. Mae'n cefnogi'r ecosystem o greu cerddoriaeth yng Nghymru wrth i'r cyllid gyfrannu at amser recordio, teithio, marchnata, gwaith celf neu brosiectau eraill sy'n helpu artist i gymryd y cam nesaf gyda'i gerddoriaeth. Mwy