Yn ôl i'r Diweddaraf
Archwilio Effeithiau Gweledol
Monday, 9 June, 2025
Taliesin Arts Centre, Sketty, Swansea SA2 8PZ
Taliesin Arts Centre, Sketty, Swansea SA2 8PZ

Abertawe Greadigol mewn partneriaeth â Gorllewin Cymru Creadigol: Archwilio Effeithiau Gweledol
Gweithdy 1: 5pm Ystafell Y Mall, Taliesin
Archwilio Effeithiau Gweledol ar gyfer y Sgrîn
Gyda nifer y cynyrchiadau a wneir yng Nghymru'n cynyddu, ynghyd â mwy o argaeledd o ran y dechnoleg, mae effeithiau gweledol yn cael eu gweld fwyfwy ar ein sgriniau. Ydych chi'n ystyried gweithio yn y sector hwn? Neu'n meddwl tybed sut bydd y datblygiadau hyn yn effeithio ar eich adran ddethol?
Ymunwch â ni am sgwrs am yr ystod o sgiliau a ddefnyddir ym maes effeithiau gweledol a'r cyfleoedd y mae'n eu darparu.
Hwylusydd y dosbarth meistr - Rhys Bebb, Screen Alliance Wales
Gweithdy Dau: 6pm Ystafell Y Mall, Taliesin
Gweithdy adeiladu bydoedd
Cyfle i archwilio crefft adrodd straeon, adeiladu bydoedd a llunio bydysawdau ymdrochol ar gyfer ffilmiau, teledu a gemau. Bydd y gweithdy hwn yn archwilio fframwaith sydd wedi'i lunio i'ch helpu i greu bydoedd ffuglennol cyfoethog, credadwy a diddorol.
Hwylusydd y dosbarth meistr - Joelle Rumbelow, Salt White Studios – Addurnwr setiau.
Mae tocynnau am ddim ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw:
https://www.taliesinartscentre.co.uk/cy/all-events?id=60576