Yn ôl i'r Diweddaraf
Cronfa Connector

Gan gyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain trwy RWYDWAITH BFI, mae cronfa Connector Ffilm Cymru Wales yn cynorthwyo sefydliadau i gynnal hyfforddiant pwrpasol a gweithgarwch rhwydweithio ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau sydd wedi'u geni neu sy’n seiliedig yng Nghymru. Gall sefydliadau sydd â phrofiad yn y diwydiannau creadigol wneud cais am hyd at £10,000 i gefnogi digwyddiadau neu weithgarwch hyfforddi ar gyfer awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau sy'n uchelgeisiol, yn newydd neu'n dod i'r amlwg.
Drwy gronfa Connector, mae Ffilm Cymru Wales am gynorthwyo sefydliadau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych i ddatblygu talent, gan gydweithio hefyd â phobl a all ddod â phrofiad a syniadau newydd i waith yr asiantaeth ddatblygu. Mwy