Yn ôl i'r Diweddaraf

Aberystwyth yn dod yn Dinas Llên UNESCO

Mae Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru gan ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd ledled y byd sydd wedi’u cydnabod am eu bod yn ‘Ddinasoedd Creadigol’. Mae’r ardal yn ymuno â dros 50 o ddinasoedd a gydnabyddir gan UNESCO am eu cyfraniad i lenyddiaeth yn benodol, gan gynnwys Barcelona, Dulyn, Seattle a Rio de Janeiro. Hefyd mae’r dynodiad Dinas Llên yn golygu mai Aberystwyth Ceredigion yw Dinas Greadigol UNESCO gyntaf Cymru. A hithau’n ganolfan i lyfrau a llên, mae gan Aberystwyth Ceredigion seilwaith bywiog o ŵyliau, siopau llyfrau, theatrau, digwyddiadau a gwyliau diwylliannol, darlithoedd, canolfannau ymchwil a rhagoriaeth academaidd, byd cyhoeddi, llên a barddoniaeth sy'n cysylltu â phob rhan o’r sir. Crëwyd y Ddinas Llên newydd ar ôl cais cryf gan bartneriaeth strategol Dinas Llên. Mae’r dynodiad UNESCO yn dwyn ynghyd Aberystwyth a sir ehangach Ceredigion i ddathlu traddodiadau llenyddol yr ardal a’i sîn ddiwylliannol ddwyieithog a ffyniannus. Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw Mererid Hopwood; mae’n aelod o bartneriaeth Dinas Llên ac meddai: “Mae’n gyfle i atgyfnerthu’r diwylliant llenyddol cyfoethog ry’n ni’n ei fwynhau yma a’i rannu â’r byd.” Efallai nad yw Aberystwyth yn ddinas yn yr ystyr traddodiadol ond mae sîn lenyddol helaeth yr ardal, ei phrifysgolion a’i sefydliadau llenyddol cenedlaethol, yn golygu ei bod yn gymwys i gael dynodiad Dinas Greadigol UNESCO. Mae Ceredigion yn gartref i gasgliad sylweddol o gyhoeddwyr, yn ogystal â sefydliadau llenyddol Cymreig o bwys cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol ym maes Astudiaethau Celtaidd, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn fyd-enwog am ei rhagoriaeth wrth addysgu ac ymchwilio i ieithoedd a llenyddiaeth, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Drwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau rydym yn cysylltu Cymru â’r byd ac yn rhannu llenyddiaeth o Gymru gyda chynulleidfaoedd newydd drwy gyfieithiadau. Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Jones, Maer Aberystwyth: “Mae llenyddiaeth a chreadigrwydd yn helpu i wneud Aberystwyth Ceredigion yn lle anhygoel i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef ac rydym yn credu y bydd cael dynodiad Dinas Llên gyntaf Cymru yn sbarduno twf pellach yn y diwydiannau creadigol, yn dod â budd i fusnesau lleol ac yn helpu mwy o bobl i’n darganfod ni a’n straeon.” Dywedoddy Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae statws Dinas Llên UNESCO yn gyrhaeddiad haeddiannol iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cyfleoedd yn datblygu a gweld Dinas Llên newydd Cymru’n ffynnu.”

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus