Yn ôl i'r Diweddaraf
Aber i Aber

Yn dilyn llwyddiant prosiect Ffordd Sain, a oedd yn dathlu cymunedau ar hyd yr A470, wnaeth Cerdd Gymunedol Cymru symud ffocws i'r arfordir, gan edrych ar hunaniaeth Gymreig mewn trefi aberoedd a chymunedau arfordirol ledled Cymru.
Gyda chefnogaeth gan raglen Loteri “Creu” Cyngor Celfyddydau Cymru, fe wnaethom weithio gyda deg cymuned amrywiol, gan gysylltu â phobl ifanc, grwpiau diwylliannol, sefydliadau amgylcheddol, a haneswyr lleol. Aeth Aber i Aber ati i archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro yn yr ardaloedd arfordirol unigryw hyn, gan ymchwilio i hunaniaeth, treftadaeth, ac arwyddocâd diwylliannol y gair Aber.
Mae'r trefi arfordirol hyn yn aml yn ddwyieithog, yn gyfoethog yn hanesyddol, ac yn wynebu heriau modern fel pwysau twristiaeth, problemau tai, a phryderon amgylcheddol, ac mae gan bob un ohonynt yr un awydd cyffredin: cael eu lleisiau wedi'u clywed a'u synnwyr o le wedi'i gydnabod.
Cymerodd dros 300 o bobl ran mewn gweithdai creadigol, gan gynhyrchu cerddoriaeth a fideos gwreiddiol sy'n mynegi eu profiadau o fyw yng nghymunedau Aber.
Mwy