Yn ôl i'r Diweddaraf

Beti a Phobol Ceredigion

Monday, 12 January, 2026
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales, Aberystwyth
Dewch i ddeall mwy am ddynodiad arbennig Dinas Llên UNESCO Aberystwyth Ceredigion. Ymunwch â Beti George mewn sgwrs gyda Gillian Elisa Thomas, Ifan Jones Evans a John Meredith wrth iddynt archwilio eu harchifau darlledu. Bydd y noson hefyd yn cynnwys teyrnged i'r dylunydd o Aberystwyth, John Julian Williams. Nodwch y bydd ffilmio a ffotograffau'n cael eu tynnu yn ystod y digwyddiad. Os nad ydych yn dymuno i'ch llun gael ei dynnu na'ch ffilmio, rhowch wybod i aelod o staff y Llyfrgell wrth gyrraedd. Digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg - darperir cyfieithu ar y pryd. Bydd lluniaeth ar gael o 6.00pm, gyda'r digwyddiad yn dechrau am 7.00pm. Mae tocynnau am ddim. Tocynnau

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus