Yn ôl i'r Diweddaraf

Cyfarfod â’r Cyllidwyr

Thursday, 6 November, 2025
Tramshed Tech, Swansea
Ymunwch â chyfarfod anffurfiol o’r sector celfyddydol yn Tramshed Tech, Abertawe, a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Swansea. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan Dîm Arweinyddiaeth Weithredol Cyngor Celfyddydau Cymru: Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr Celfyddydau, a Lorna Virgo, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Bydd Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau yng Nghyngor Abertawe, hefyd yn siarad am waith Creative Swansea ac yn rhannu mewnwelediadau i ddatblygiadau a chyfleoedd lleol. Bydd hwn yn gyfle i gysylltu ag eraill yn y sector celfyddydol, rhannu diweddariadau ar brosiectau a chyfleoedd creadigol, trafod materion cyfredol, ac archwilio barn ar faterion sy’n effeithio ar y celfyddydau. Mwy

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus