Yn ôl i'r Diweddaraf

Busnesa - Hannah Loy

Y mis hwn, rydym yn busnesa tu ôl i llenni cwmni cynhyrchu yng Ngheredigion. Hannah Loy, podledwraig, cyflwynydd a cynhyrchydd, yw sylfaenydd Read the Room. Mae hi hefyd yn cynhyrchu a chyflwyno cyfres barhaus The Aberystwyth Book Club ar BBC Sounds. Gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau cipolwg ar y stori y tu ôl i'r cwmni arbennig hwn.
Dechreuodd fy nghariad at y radio yn y brifysgol lle gwnes ddrama radio pum munud yn seiliedig ar Charlie and the Chocolate Factory. Ar ôl gweithio mewn nifer o orsafoedd radio cymunedol, cefais fy ngwahodd i wneud mis o brofiad gwaith yn y BBC, a arweiniodd yn y pen draw at fy swydd gyntaf yn gweithio yn stiwdios eiconig Maida Vale. Yn 2010, symudais i Gaerdydd a gweithio fel ymchwilydd yn yr archif deledu. Syrthiais mewn cariad â Chymru ond roeddwn yn colli gweithio ym myd radio, felly cymerais nifer o gyfleon yn BBC Radio Wales, cyn dod yn aelod staff llawn amser i'r orsaf, yn gyntaf fel ymchwilydd ac yna fel cynhyrchydd. Gweithiais ar draws bron pob un o'u rhaglenni dyddiol ac wythnosol ac yn ogystal gwnes raglenni dogfen iddyn nhw, BBC Radio 4, a BBC World Service. Yn 2024, ar ôl bron i ddeunaw mlynedd yn y BBC, gwnes y penderfyniad i adael a sefydlu fy nghwmni cynhyrchu fy hun yng nghorllewin Cymru. Prosiectau Presennol a Dyfodol Rwy'n cyflwyno ac yn cynhyrchu cyfres barhaus ar BBC Sounds o'r enw The Aberystwyth Book Club, ni'n mynd i Ŵyl y Gelli bob blwyddyn i'w recordio o flaen cynulleidfa. Yn y bôn, mae'n glwb llyfrau ar y radio sy'n cynnwys darllenwyr bob dydd o'r dref ac mae'n bleser pur ei greu. Yn 2025, cynhyrchais gyfres podlediadau ar gyfer Cyngor Prydeinig Cymru o'r enw Breaking Boundaries, a oedd yn gysyniad a ddyfeisiwyd ar ôl bod yn ddigon ffodus i fynd ar daith Cwmpas Llenyddiaeth i Simbabwe a De Affrig. Mae'r gyfres yn tynnu sylw at rai cydweithrediadau anhygoel rhwng artistiaid Cymreig a rhyngwladol. Rwy'n parhau i gyflwyno syniadau podlediadau a radio drwy gydol y flwyddyn ac rwyf hefyd wedi gwneud rhywfaint o waith ymgynghorol a hyfforddiant podlediadau yn lleol. Yn 2026, rwy'n gobeithio lansio llinyn newydd i Read the Room Productions, gan helpu awduron a chyhoeddwyr bach annibynnol i greu llyfrau sain o ansawdd proffesiynol, heb yr angen i logi stiwdio. Rwyf hefyd yn gobeithio lansio sesiynau 1-1 ar-lein fel ymgyghorydd podlediadau, hyfforddiant a chyngor. Beth sy'n rhoi y mwya' o foddhad i ti yn dy waith? Yr hyn rwy'n ei garu am wneud podlediadau a rhaglenni radio yw'r rhyddid creadigol a'r rheolaeth. O'i gymharu â theledu, mae'r cyllidebau'n fach iawn ond mae hynny'n golygu eich bod chi'n aml yn cael gwneud yr HOLL gynhyrchiad, gan gynnwys ymchwil, cyfweliadau, ysgrifennu sgriptiau, recordio, golygu, ychwanegu cerddoriaeth ac effeithiau sain, cymysgu a meistroli. Mae gwneud prosiect llawn fel hyn, o'r cysyniad i'r cyflwyniad, yn rhoi lot fawr o foddhad i mi. Beth yw'r peth gorau am sefydlu busnes yng Ngorllewin Cymru? Rwyf wedi canfod bod dod i adnabod y gymuned llawrydd a chreadigol leol yn un o'r pethau gorau am leoli fy nghwmni yng nghefn gwlad Cymru ger Aberstwyth. Mae cymaint o bobl wych yn gwneud ac yn creu pethau gwych. Beth yw'r manteision o fod yn rhan o rwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol? Dydych chi byth yn gwybod pwy rydych chi'n mynd i'w gyfarfod a sbarduno syniadau gyda nhw yn y digwyddiadau a dyna sy'n ei gwneud hi'n gyffrous iawn i mi. Mae pobl newydd yn darganfod am Orllewin Cymru Greadigol drwy'r amser ac mae'n ddiddorol darganfod am lwybrau gyrfa a straeon pobl. Rwyf hefyd wedi ei chael hi'n gefnogol iawn. Mae pobl yn awyddus i helpu ei gilydd lle bynnag y gallant oherwydd eu bod yn falch o'r gwaith a'r ardal maen nhw'n byw ynddi. Unrhyw gyngor i rywun sy'n dechrau gyrfa yn y diwydiant? Peidiwch ag ofni rhannu eich syniadau a'ch gweledigaethau gyda phobl. Mae mor bwysig bod yn gyffrous ac yn falch o'r hyn rydych chi'n ei wneud neu eisiau ei wneud. Mae rhannu yn eich helpu i fynegi eich cysyniadau'n gliriach ac mae brwdfrydedd yn heintus! Mae'n arwain at bobl eisiau eich helpu neu weithio gyda chi yn y dyfodol. Yn aml, mae rhannu yn arwain at drafodaethau creadigol a gall fod yn hynod ddefnyddiol clywed mewnbwn a syniadau gan bobl eraill nad ydych chi efallai wedi'u hystyried eto.

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Rhwydwaith

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion, cyllid a chyfleoedd gwaith.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus