Yn ôl i'r Diweddaraf
Rhwydweithio

Mae digwyddiadau diweddar Gorllewin Cymru Greadigol wedi bod yn llawn rhwydweithio a thrafodaethau, gyda phaneli sector cerddoriaeth MYND a theithiau stiwdio yn Cwrw, dosbarth meistr gemau yng Ngholeg Ceredigion, sesiwn Gwneud iddo Weithio yn y Diwydiant Cerddoriaeth yn y Bunkhouse, Archwilio Effeithiau Gweledol yng Nghanolfan Taliesin a Busnes Bwyd yn Yr Egin.
Roedd Cyfarfod yr Haf yn Yr Egin yn cynnwys sgyrsiau ar Fenywod mewn Darlledu Chwaraeon, Deallusrwydd Artiffisial a Chreadigrwydd, Rôl yr Asiant Creadigol, cyfle i gwrdd â thîm Cymru Greadigol a chyfleoedd i sgwrsio a rhwydweithio gyda chyd-greadigwyr. Gwnaed yr holl ddigwyddiadau hyn yn bosibl diolch i ymdrechion ein partneriaid a brwdfrydedd ein haelodau.